Gwasanaethau cyfieithu ApLingo:
Mae ApLingo yn gwmni egnïol a sefydlog gydag enw da o fewn y diwydiant cyfieithu, sy’n darparu cyfleusterau o ansawdd uchel o’i rwydwaith o swyddfeydd lleol ar draws y Deyrnas Unedig.
Gwasanaethau:
Rydym yn cynnig gwasanaeth sy’n broffesiynol iawn ac eto’n bersonol. Mae ein staff wedi’u hyfforddi i ddelio’n fedrus ag unrhyw aseiniad; byddant yn cwrdd â’ch gofynion ynglŷn ag amseru, iaith, a’ch maes arbennig. Rydym yn falch o ansawdd ein gwasanaeth a boddhad ein cwsmeriaid. Mae rhestr ein cwsmeriaid yn cynnwys sefydliadau blaenllaw ym meysydd yswiriant, y gyfraith, meddygaeth, cysylltiadau cyhoeddus / hysbysebu, ffatrïaeth ac allforio. Mae gennym swyddfeydd cysylltiedig yn India, Sbaen, De Affrica, Rwsia a’r Deyrnas Unedig, sy’n ychwanegu dimensiwn arall a chryfder i’n rhwydwaith a’n gwasanaeth
Ein cyfieithwyr:
Mae dros 400 o gyfieithwyr medrus ar gael inni. Maent i gyd â chymwysterau proffesiynol gyda phrofiad dwfn o’r ieithoedd a meyseydd y maent yn ymgymryd â hwy. Defnyddir dim ond siaradwyr iaith gyntaf er mwyn sicrhau cywirdeb a throsi iawn i’r iaith darged.
Ieithoedd/meysydd gwaith
Rydym yn darparu gwasanaeth yn y rhan fwyaf o ieithoedd y byd, gan gynnwys ieithoedd o Ddwyrain Ewrop, Arabaidd, Asiaidd ac Affricanaidd. Mae ein tîm yn meddu ar ystod llawn o fedrau o feysydd gwahanol sy’n cynnwys testunau masnachol, cyfreithiol a thechnegol. Gallwn ddewis cyfieithydd arbenigol ar gyfer unrhyw brosiect, sydd â sgiliau, nid yn yr iaith yn unig, ond yn y maes penodol. Credwn bod perthynas gwaith agos rhyngom yn hanfodol er mwyn deall amgylchiadau a therminoleg gwaith ein cwsmer.
Cwblhau:
Pan dderbyniwn aseiniad byddwn yn asesu eich anghenion amseru a chyflwyno. Yn fwyaf pwysig, unwaith rydym wedi ymrwymo i amser cwblhau rydym yn cadw at hyn. Mae gwasanaeth un-dydd ar gael yn aml ar gyfer aseiniadau brys neu aseiniadau llai. Caiff testunau gorffenedig eu trosglwyddo trwy e-bost mewn ffurf Word neu PDF. Wrth gwrs, gellwn ddefnyddio ffacs, post neu negesydd os dymunir.
Gwasanaethau Cyflwyno ac Argraffu Cyfieithiadau:
Manteisiwch o’n darpariaeth gyflwyno gyflawn; o gynllunio, trwy gyfieithu a fformatio, cyhoeddi pen-bwrdd ac argraffu, hyd at ddanfon y gwaith gorffendig yn syth atoch. Byddwn yn gweithio ochr yn ochr â chi i sicrhau y bydd eich prosiect nesaf yr un mor llwyddiannus ag y dylai fod.
Ein prisiau:
Fel arfer, caiff ein pris terfynol ei gyfrif ar sail nifer y geiriau yn yr iaith darged. Ni fyddwn yn codi tâl ychwanegol am aseiniadau brys oni bai y cytunir ar hyn ymlaen llaw mewn amgylchiadau eithriadol. Ceir prisiau arbennig ar gyfer testunau dros 4000 o eiriau. Mae amcangyfrifon ac ymgynghori proseictau ar gael am ddim a heb unrhyw ymrwymiad gennych. |